Noson bontio blwyddyn 6
Nos Fercher, Gorffennaf 12fed.
Croeso i chi rieni a disgyblion newydd i Ysgol y Strade am noson o rannu gwybodaeth, a chael blas ar fywyd yn yr ysgol.
6.00yh
- Rhieni i ymgynnull yn y Gampfa i dderbyn gwybodaeth am y bandio, dosbarthiadau cofrestru, y wisg ysgol, y llyfr cyswllt, gweithgareddau pontio, i enwi ond rhai.
- Caiff y disgyblion y cyfle i gyfarfod â’u tiwtoriaid dosbarth, a gwneud ffrindiau newydd.
- Bydd lluniaeth ysgafn i bawb yn y Ffreutur ar ddiwedd y noson.
- Edrychwn ymlaen i’ch croesawu.
Dydd Iau, Gorffennaf 13eg.
- Dyma gyfle i’r disgyblion drafod ymhellach gyda’r tiwtoriaid dosbarth, a phrofi gwers neu ddwy.
- Caniateir dillad hamdden ar y diwrnod hwn.
- Ni fydd angen bagiau ar y disgyblion.
- Bydd angen arian ar gyfer cinio – tua £3.50.
I weld copi o’r llythyr a anfonwyd drwy’r Ysgolion Cynradd cliciwch yma Llythyr i rieni Bl 6 pontio