Urdd
Mae’n amser i ymaelodi â’r Urdd!
Gydag aelodaeth yr Urdd bydd eich plentyn yn gallu:
- Cymryd rhan mewn cystadlaethau a thwrnameintau chwaraeon, gan gynnwys pêl-droed, pêl-rwyd, nofio, pêl-fasged gynhwysol, a rygbi 7-bob-ochr
- Gwneud atgofion newydd a chyfarfod ffrindiau newydd wrth fynd i weithgareddau a digwyddiadau gyda’r Adran neu Aelwyd leol
- Bod yn rhan o un o wyliau ieuenc d mwyaf Ewrop wrth gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd
- Ymweld â rhannau newydd o’r byd ar deithiau tramor gyda staff profiadol
- Ennill profiadau gwerthfawr wrth wirfoddoli gyda ni
- I’r rheiny rhwng 14 a 25 oed, mae’r Fforwm Ieuenctid yn gyfle i drafod y materion sy’n bwysig i bobl ifanc heddiw
I ymaelodi ar-lein yn syth neu am fwy o wybodaeth, ewch i’n gwefan yma.
Pris cynnar gostyngol!
Ymaelodwch cyn hanner nos 9 Ionawr 2020 i fanteisio ar y pris cynnar gostyngol.
Unigolion: £8 cyn 9 Ionawr a £10 wedi hynny
Teulu (tri neu fwy o blant): £20 cyn 9 Ionawr a £25 wedi hynny