Addysg Rhyw a Pherthynas
Fe weithredwn ni yn unol â pholisi Pwyllgor Addysg Sir Caerfyrddin ar Addysg Rhyw yn y cwricwlwm. Fe wynebwn Ryw trwy fframwaith rhyngddisgyblaethol. Fe fydd y ddarpariaeth yn rhan hanfodol o gwricwlwm yr ysgol yn unol â’r canlynol:
- Oed, aeddfedrwydd, datblygiad a daliadau’r disgyblion.
- Fe fydd y meysydd llafur sy’n cynnwys Addysg Rhyw a Pherthynas yn rhoi ystyriaeth i bynciau moesol, gwerth bywyd teuluol, oed, aeddfedrwydd a datblygiad y disgyblion.
- Gofynion meysydd llafur Addysg Iechyd ac Addysg Foesol a ddysgir fel rhan o Addysg Bersonol a Chymdeithasol i bob disgybl yn yr ysgol (fel cwrs cyflawn ym Mlynyddoedd 10, 11, 12, 13 ac fel rhan o wers ABCh ym Mlynyddoedd 7-9).
- Gofynion meysydd llafur Gwyddoniaeth (TGAU) i ddisgyblion ym Mlynyddoedd 10 ac 11.