Bwyd a Maeth
Rhagair
Mae TGAU Bwyd a Maeth yn rhoi’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar ddysgwyr i goginio a chymhwyso egwyddorion gwyddoniaeth bwyd, maeth a bwyta’n iach. Mae’n annog dysgwyr i goginio ac mae’n eu galluogi i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth ynglŷn â bwyd a maeth er mwyn gallu bwydo eu hunain ac eraill yn fforddiadwy a maethlon, nawr ac yn y dyfodol.
Cynnwys y Cwrs
Nwyddau bwyd | Eu gwerth yn y ddeiet, arbrofi â’r nwyddau, nodweddion a phriodweddau, sut i’w storio, paratoi prydau. |
Egwyddorion maeth | Protein, braster, carbohydradau, fitaminau, mwynau, ffibr, dŵr.
Rôl y maethynnau yn y ddeiet. |
Deiet ac iechyd da | Gofynion egni unigolion, cynllunio deietau cytbwys. Cyfrifo’r egni a’r maethynnau mewn rysaít, pryd bwyd a deiet gyda chyfrifiadur. |
Gwyddoniaeth bwyd | Effaith coginio ar fwyd, dirywiad bwyd, cyffeithio bwyd. |
O ble daw bwyd | Tarddiad bwydydd, milltiroedd bwyd, cynaliadwyedd bwyd. Cynhyrchu bwyd i gynnwys bwyd o Gymru a bwydydd rhyngwladol. |
Coginio a pharatoi bwyd | Ffactorau sy’n effeithio ar ddewis bwyd, paratoi a thechnegau bwyd. Rhaid i ddisgyblion allu cynllunio, paratoi, coginio a gweini nifer o wahanol ryseitiau gan ddangos technegau gwahanol. |