Grant Amddifadedd 2018-19
Dyrennir y Grant Amddifadedd Disgyblion (GAD) i ysgolion â disgyblion sy’n dod o deuluoedd incwm isel ac y gwyddys eu bod ar hyn o bryd yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim (hPYDd) a disgyblion sydd wedi ‘derbyn gofal’ yn barhaus am fwy na chwe mis (Plant Mewn Gofal). Disgwylir i ysgolion ddefnyddio’r cyllid hwn i’r eithaf i gyflwyno strategaethau cynaliadwy fydd yn arwain yn gyflym at newidiadau i ddysgwyr sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim neu sy’n PMG. Fel ysgol rydym wedi cytuno ar y tri cham a ganlyn:
- Nodi’r grŵpiau targed o ddisgyblion, eu nodweddion a’u hanghenion dysgu
- Cynllunio ymyraethau sy’n gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o adnoddau
- Monitro a gwerthuso effaith yr adnoddau
Yn 2018-19, darparwyd i Ysgol y Strade ddyraniad Grant Amddifadedd Disgyblion o £97,750. Yn Ysgol y Strade mae gennym gynllun cynhwysfawr, sydd wedi’i gytuno a’i fonitro gan Awdurdod Lleol Sir Gaerfyrddin ac ERW, i hyrwyddo cynnydd a lleihau effaith rhwystrau i ddysgu i fyfyrwyr sy’n gymwys ar gyfer y cyllid hwn. Rydym wedi defnyddio’r cyllid sydd ar gael i:
-
Cyd-weithio gyda ‘Llwyddiant i Bawb’ (AfA)
- Fe fydd 10 ymweliad yn ystod y flwyddyn oddi wrth ‘Llwyddiant i Bawb’ yn cynnwys 4 aelod o staff. Fe fydd y sesiynau yn cynnwys hyfforddiant ar;
- Sut i dargedu unigolion/Pa ddata i ddefnyddio
- Cynllunio strategaeth ysgol gyfan i fynd i’r afael ag amddifadedd
- Trafodaethau Strwythuredig
- Addasu gweithdrefnau i ganolbwyntio ar yr unigolyn
- Rhannu arfer cenedlaethol sydd yn arwain sector yn y maes.
- Yn dilyn hyn fe fydd y wybodaeth yn cael ei gyflwyno i’r holl staff yn ystod sesiynau HMS ac yn ystod sesiynau yn nhymor y Gwanwyn.
- Fe fydd y ffocws ar ddull o drafodaethau strwythuredig yn hyfforddi Penaethiaid Safonau i ddelio gyda theuluoedd ac unigolion sydd yn derbyn PYD mewn ffordd sydd yn canolbwyntio ar yr unigolyn.
-
Sefydlu gweithdrefnau er mwyn sicrhau bod pob disgybl PYD yn cyrraedd eu potensial.
- Creu proffil academaidd /Lles/ymyrraeth/phresenoldeb holl ddisgyblion PYD yr ysgol.
- CreuPUT ar gyfer disgyblion PYD CA4 i rannu gwybodaeth sydd yn canolbwyntio ar yr unigolyn. Golygir hyn bod athrawon dosbarth yn medru cyfeirio at hyn yn ystod gwersi.
- Cynnal cyfarfodydd pob hanner tymor i fonitro cynnydd y disgyblion yma ac i osod ymyrraeth yn ei le pan fo angen.
- Rhannu gwybodaeth disgyblion PYD 7-11 gyda phob aelod o staff er mwyn codi ymwybyddiaeth o anghenion yr unigolion.
- Parhau i gyfeirio disgyblion PYD at gyfarfodydd VAP yn ôl yr agen. Sicrhau darpariaeth gywir trwy Cynnydd.
- Sefydlu Fforwm Dysgwr, sydd yn cynnwys disgyblion PYD, er mwyn cynnal trafodaeth Professional ymysg athrawon sydd yn canolbwyntio ar yr unigolyn (cyfarfodydd ar fore Mercher yn lle cyfarfodydd blwyddyn).
-
Monitro a thracio disgyblion PYD
- Defnyddio system gyfrifiadurol Lucid Exact i asesu llythrennedd disgyblion unigol (yn cynnwys PYD).
- Monitro a thracio pob disgybl PYD (7-11) yn defnyddio data CATS (CA3) FFT 20 (TGAU) a gwybodaeth adrannol.
- Gosod ymyrraeth addas yn ei lle er mwyn sicrhau cynnydd disgyblion ar hyd y FfLlRh (gwelir 3 isod)
-
Darpari ymyrraeth i gefnogi disgyblion PYD a chau’r bwlch amddifadedd.
- Creu amserlen i gynnal ymyrraeth llythrennedd a rhifedd er mwyn cefnogi disgyblion PYD CA3 a sicrhau mynediad at y cwricwlwm ehangach.
- Cefnogi disgyblion CA4 trwy gynnal gwersi unigol i baratoi ar gyfer arholiadau allanol.
- Cynnal gwersi ychwanegol Iaith a Mathemateg yn y cyfnod cyn ei arholiadau allanol TGAU (Tachwedd 2018-Mai 2019)
- Creu grwpiau yng NgA3 sydd yn cyd-weithio gyda’r Swyddog URC er mwyn magu perthynas positif gyda grŵp o fechgyn bl 7-9 sydd yn peri gofid o ran presenoldeb, lles, ymddygiad neu ymdrech.
- Cyflwyno mentoriaid penodol i ddisgyblion PYD CA4 er mwyn tracio’n fanwl ac adnabod anghenion yr unigolyn yn fwy manwl.
- Cyd-weithio gyda ‘Prinicpality’/‘School of Hard Knocks’ ar brosiect ‘Stepping Stones’ er mwyn ysbrydoli dysgwyr CA3 sydd yn wynebu amddifadedd. Bwriad y prosiect yw codi cymhelliant disgyblion sydd yn tangyflawni trwy annog parch ac iddynt gymryd cyfrifoldeb dros gynnydd ei hunain.
- Parhau i dargedu disgyblion PYD MATh ar draws CA3 er mwyn targedu disgyblion gyda’r gallu i gyrraedd y dangosyddion mwyaf heriol (L6+/L2++).
-
Datblygu rôl clybiau adrannol/clybiaun gwaith cartref i gynorthwyo disgyblion PYD.
- Cynnal holiadur Llais y Dysgwr i gasglu barn disgyblion ynglŷn â’r ddarpariaeth a’r ffordd i’w ddatblygu.
- Creu amserlen o glybiau gwaith cartref/clybiau adrannol i gynorthwyo disgyblion bregus a disgyblion PYD yn ôl y gofyn.
- Gwerthuso’r ddarpariaeth yn dymhorol ac addasu’r staffio/amserlen.
-
Sefydlu rhaglen hyfforddiant Emosiwn i ddisgyblion CA3
- Creu rhwydwaith o gefnogaeth i ddisgyblion yn cynnwys staff a disgyblion.
- Hyfforddiant i fyfyrwyr y 6ed a’i ddatblygu i fod yn hyfforddwyr emosiwn i ddisgyblion CA3 yr ysgol. Cynnal HMS i staff ar1.19 er mwyn hyrwyddo’r hyn rydym yn gwneud a strategaethau gallent ddefnyddio yn y dosbarth.
- Creu Fforymau i ddisgyblion CA3 i gael cymorth emosiynol ar amryw o faterion sydd yn effeithio pobl ifanc. Mae hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod pob disgybl yn teimlo bod ganddynt rywun i droi
- Cryfhau’r cyswllt rhwng disgyblion yr ysgol a’r cartref a sicrhau bod gan bob disgybl mynediad at gymorth.