Mathemateg a Mathemateg Rhifedd
Rhagair
Bydd cyfle gan ddisgyblion i ennill 2 gymhwyster TGAU Mathemateg llinol gwahanol, sef TGAU Mathemateg Rhifedd, a TGAU Mathemateg.
Mae’r amcanion asesu ar gyfer y 2 TGAU yma’n gofyn i ddisgyblion :
- galw i gof a defnyddio eu gwybodaeth o’r cynnwys penodedig
- dethol a defnyddio dulliau mathemategol mewn amrywiol gyd-destunau, ac allan o gyd-destun
- dehongli a dadansoddi problemau a chynhyrchu strategaethau i’w datrys
Bydd disgwyl i ddisgyblion sy’n cael eu cofrestru ar gyfer TGAU Mathemateg fod yn gyfarwydd â’r wybodaeth, y sgiliau, a’r ddealltwriaeth sydd ymhlyg yn TGAU Mathemateg Rhifedd.
Asesu
Rhaid i’r disgyblion sefyll cyfanswm o 4 papur arholiad er mwyn ennill y 2 gymhwyster TGAU llinol gwahanol. Disgwylir iddynt sefyll yr arholiadau canlynol :
TGAU Mathemateg Rhifedd :
Papur 1 (Uned 1 – arholiad heb gyfrifiannell)
Papur 2 (Uned 2 – arholiad cyfrifiannell)
TGAU Mathemateg :
Papur 1 (Uned 1 – arholiad heb gyfrifiannell)
Papur 2 (Uned 2 – arholiad cyfrifiannell)
Haenau Mynediad
Ar gyfer y 2 TGAU Mathemateg llinol gwahanol, bydd 3 haen mynediad gyda rhai graddau yn gorgyffwrdd. Dewisir yr haen mynediad er mwyn sicrhau y bydd ymgeiswyr yn medru dangos eu cyrhaeddiad gorau.
Haen | Graddau |
Uwch |
A*, A, B, C |
Canolradd |
B, C, D, E |
Sylfaenol |
D, E, F, G |