Mynediad i’r Ysgol
Does dim dalgylch fel y cyfryw gan yr ysgol hon am ei bod hi’n draddodiadol yn ysgol o ddewis y rhieni. Sut bynnag mae mwyafrif y disgyblion presennol yn dod o’r ysgolion canlynol:
- Ysgol Brynsierfel, Llwynhendy
- Ysgol Dewi Sant, Llanelli
- Ysgol y Felin, Ffwrnes
- Ysgol Gwenllian, Cydweli
- Ysgol yr Hendy
- Ysgolion Llangennech
- Ysgol Parc y Tywyn, Porth Tywyn
- Ysgol Pum Heol
- Ysgol Trimsaran
- Ysgol Mynyddygarreg
Croesawir disgyblion yn ogystal o ysgolion Cynradd eraill tu hwnt i gylch Llanelli.