Rheolau Cyffredinol yr Ysgol
8.30 | Cloch | Bell |
8.30 – 9.00 | Cofrestru, Gwasanaeth a’r Rhaglen Fugeiliol | Registration, Assembly, Pastoral Programme |
9.00 – 10.00 | Gwers 1 | Lesson 1 |
10.00 – 11.00 | Gwers 2 | Lesson 2 |
11.00 – 11.15 | Egwyl | Break |
11.15 – 12.15 | Gwers 3 | Lesson 3 |
12.15 – 1.15 | Gwers 4 | Lesson 4 |
1.15 – 2.15 | Cinio | Lunch |
2.15 – 3.15 | Gwers 5 | Lesson 5 |
Ar rai achlysuron arbennig mae amserau’r ysgol yn newid a rhoddir gwybodaeth i rieni ar ffurf llythyr e.e. cau’n gynnar.
Mae rheolau ymddygiad yn hanfodol ar gyfer cymuned fel ysgol a dyma grynodeb o reolau cyffredinol yr ysgol.
- Disgwylir i ddisgyblion wisgo gwisg swyddogol yr ysgol yn gywir.
- Disgwylir i ddisgyblion fod yn brydlon bob amser. Bydd cofrestru am 8.30 a rhaid bod yn yr ysgol bum munud cyn yr amser hyn.
- Dylid bod yn brydlon i’r gwersi bob amser.
- Rhaid cyflwyno nodau absenoldeb ar y dydd cyntaf yn dilyn absenoldeb.
- Tlysau – Caniateir i fechgyn a merched wisgo i fyny at un styden yn unig ymhob clust. Caniateir gwisgo un fodrwy yn unig. Ni chaniateir steil gwallt eithafol.
- Ni fydd hawl gan ddisgyblion adael tir yr ysgol rhwng 8.30am a 3.15pm heb ganiatad y Pennaeth, Dirprwy Bennaeth, Penaethiaid Cynorthwyol neu’r Penaethiaid Safonau. Yn ychwanegol ni chaniateir i ddisgyblion groesi Heol Sandy o’r bae bysiau i’r garej a’r caffi yn y cyfnod cyn 8.30 nac yn y cyfnod wedi 3.15 tra’n aros am y bysiau.
- Mae ysmygu ar dir yr ysgol, ar fysiau ysgol ac mewn lleoedd cyhoeddus yn cael ei wahardd yn llwyr.
- Rhaid i ymddygiad y tu mewn a’r tu allan i’r ysgol fod yn rhesymol a rhaid dangos parch at bobl ac eiddo.
- Does dim hawl defnyddio ffionau symudol rhwng 9:15pm – 3:15pm
Mae rheolau penodol eraill i’w cael heblaw am y rhain.