CRA Y Strade 
Etholir Pwyllgor yn y cyfarfod cyntaf ac fe gynhelir Cyfarfod Blynyddol wedyn ar ddechrau pob blwyddyn academaidd. Yn yr un modd etholir aelodau o’r Athrawon ar y Pwyllgor. Bwriedir cael aelodau o’r rhieni ar y Pwyllgor o bob rhan o dalgylch eang yr ysgol. Hefyd bydd chwech o’r rhieni ar Fwrdd Rheolwyr yr ysgol. Gobeithir y bydd pob rhiant yn cefnogi’r gymdeithas er mwyn cynorthwyo’r ysgol a hefyd i greu cysylltiad agos rhwng y cartref a’r ysgol.
Swyddogion 2019-2020
Trysorydd Mrs Anna Rees
Cadeirydd Mr Owain Davies
Ysgrifenyddes Mrs Karen Seward
Cydlynydd y GRA Miss Catrin Hughes
Digwyddiadau
Chwefror 2019
Noson Caws a Gwîn Cerdd â Chân Chwefror 21ain. Tocynnau ar werth o swyddfa’r ysgol £6 oedolion £4 plant.
Tachwedd 2018
Ffair Aeaf – cynhelir Ffair Aeaf yn yr ysgol Tachwedd 20fed. Bydd stondinau ac adloniant gan ysgolion Teulu’r Strade.
Mehefin 2018
‘Mochyn a Mwy’ Nos Wener, Mehefin 29ain, Clwb Rygbi Ffwrnes. Croeso i blant. Tocynnau ar gael gan BR, NG, AC, a CH
Cyfarfod yn Gwesyty’r Thomas Arms i drafod nos Lun, Mehefin 11eg 7:00yh
Ebrill 2018
Hyd yma mae’r GRA wedi codi £2,561 yn ystod yr wyth mis diwethaf. Diolch am bob cefnogaeth.
Dewch yn llu i’r cyfarfod nesaf- ar Ebrill 30ain yn y Thomas Arms, 7.00yh. Mae angen trefnu 1/2 weithgaredd arall. Bydd croeso cynnes i aelodau newydd.
Lledaenwch y neges os gwelwch yn dda?
Rhagfyr 2017
Gair byr ond diffuant i ddiolch yn fawr i bawb a gefnogodd y Ffair neithiwr. Roedd yn braf gweld ysgolion y Teulu gyda’i gilydd, gyda’u rhieni a’u ffrindiau.
Diolch i’r Cynradd a’r Strade am eitemau gwych ac am y cynnyrch gwreiddiol ar y stondinau. Dwi’n ymwybodol bod pawb yn eithriadol o brysur yr adeg hon o’r flwyddyn, ac mae’r GRA yn gwerthfawrogi eich presenoldeb yn fawr.
Ar ran y Gymdeithas, carem ddymuno Bendith yr Ŵyl i bawb, a diolch am bob cefnogaeth i’n gweithgareddau drwy gydol y flwyddyn.
Mae’r elw hyd yma dros £850, ac rydym yn parhau i enwi’r corach tan dydd Gwener!
Y digwyddiad nesaf fydd ein cyngerdd ‘Caws a gwîn, cerdd a chân’ ar Fawrth y 1af. Croeso i bawb.